Rhif y ddeiseb: P-06-1268

Teitl y ddeiseb: Dylid adolygu'r broses o ran statws ardaloedd wedi’u rhag-asesu ar gyfer tyrbinau ar y tir, sy’n rhoi unigolion dan anfantais annheg.

Testun y ddeiseb:

Mae’r system bresennol yn ffafrio datblygwyr sydd â mynediad at arbenigedd cyfreithiol, arbenigedd cynllunio ac arbenigedd ariannol yn annheg. Nid oes gan unigolion / cymunedau y gefnogaeth na'r adnoddau i gyfateb i hynny. Gall penderfyniadau ynghylch tyrbinau ynni gwynt ddinistrio bywoliaethau a chymunedau. Rhaid i'r broses newid, i sicrhau bod pawb yr effeithir arnynt, o bosibl, yn cael gwybod ar ddechrau unrhyw drafodaethau, ac yn cael cyngor cynllunio proffesiynol a chyngor cyfreithiol am ddim a chefnogaeth i allu dylanwadu ar benderfyniadau.

Gwybodaeth ychwanegol:

Rydyn ni'n teimlo ein bod ni'n cael ein bwlio a'n dychryn. Deallwn fod datblygwyr eisoes wedi bod yn trafod â pherchnogion tir ers misoedd i ddweud eu bod yn bwriadu gosod tyrbinau gwynt 250 metr o uchder 700 metr o'n drws ni. Nid oeddem wedi cael gwybod am hyn ac rydym wedi clywed am y mater drwy gymydog y gofynnwyd iddo lofnodi cytundeb sŵn.

Nid oedd y Cynghorau Cymuned, cynghorwyr sir na gwleidyddion rhanbarthol yr ydym wedi cysylltu â hwy, yn ymwybodol o'r statws ardal wedi’i rhag-asesu a roddwyd i'r ardal hon, a oedd felly'n paratoi'r ffordd i osod tyrbinau. Mae’r broses gynllunio mewn perthynas ag 'Ardaloedd wedi’u rhag-asesu ar gyfer ynni’r gwynt' a ddangosir yn y ddogfen Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040, wedi dileu gwneud penderfyniadau’n lleol o'r broses gynllunio, gan felly golli dealltwriaeth bwysig o'r tirwedd a’r economi, ac o’r effaith ddiwylliannol, yr effaith ieithyddol a’r effaith bersonol ar gymuned leol. Byddai ein bywoliaeth ni, sef busnes glampio yr ydym wedi gweithio'n galed i'w ddatblygu dros ddwy genhedlaeth yn cael ei ddifrodi, ac mae hyn eisoes yn effeithio'n negyddol ar ein llesiant ni fel teulu!

Hen Dro Sal - Chwarae Teg

 


1.        Cefndir

1.1.            Beth yw ardaloedd wedi’u Rhag-asesu  ar gyfer Ynni Gwynt?

Mae ‘Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040’ yn rhestru nifer o Ardaloedd wedi’u rhag-asesu ar gyfer ynni gwynt.

Yn yr ardaloedd hyn, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi modelu’r effaith debygol ar y dirwedd ac wedi dod i’r casgliad y byddant yn gallu ymdopi â datblygiad mewn ffordd dderbyniol.

Nid yw hyn yn golygu y caiff datblygwyr ganiatâd yn awtomatig, ond mae rhagdybiaeth o blaid datblygiad ynni gwynt mawr (gan gynnwys adbweru) yn yr ardaloedd hyn.  Mae hyn wedi’i nodi ym mholisi 17 Cymru’r Dyfodol. Byddai angen i unrhyw ddatblygiad arfaethedig fodloni nifer o feini prawf, sydd wedi’u rhestru ym mholisi 18 yn Cymru’r Dyfodol.  

1.2.          Beth yw Cymru’r Dyfodol?

Cymru’r Dyfodol yw ‘Fframwaith Datblygu Cenedlaethol’ Llywodraeth Cymru; sef strategaeth genedlaethol ar gyfer 20 mlynedd sy’n cynnwys polisïau’r llywodraeth ar ddatblygu a defnyddio tir mewn cyd-destun gofodol. Cafodd y ddogfen ei chyhoeddi ym mis Chwefror 2021. 

Mae gan Cymru’r Dyfodol statws ‘cynllun datblygu’. Gan hynny, rhaid i benderfyniadau cynllunio gydymffurfio â’r strategaeth. Rhaid i’r cynlluniau sy’n berthnasol iddi - Cynlluniau Datblygu Strategol (nad ydynt wedi’u cyflwyno eto) a Chynlluniau Datblygu Lleol – hefyd gyd-fynd â’r Fframwaith. 

Mae Cymru’r Dyfodol ar frig hierarchiaeth polisi cynllunio, ochr yn ochr â Pholisi Cynllunio Cymru, sef polisi cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

O dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, mae’n ofynnol  paratoi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol i Gymru (hy Cymru’r Dyfodol) a rhaid ei  adolygu bob pum mlynedd o leiaf.

1.3.          Sut y cafodd yr Ardaloedd wedi’u Rhag-asesu ar gyfer Ynni Gwynt eu dynodi a sut yr ymgynghorwyd yn eu cylch?

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grynodeb o gyfranogiad  y cyhoedd  sy’n rhoi trosolwg o’r modd yr aeth ati i ymgynghori ynghylch y Fframwaith. Mae hefyd nifer o ddogfennau sy’n crynhoi digwyddiadau ymgysylltu unigol. Cafodd y prif ymgynghoriadau agored eu cynnal rhwng mis Ebrill 2018 tan fis Gorffennaf 2018 a rhwng mis Awst 2019 a mis Tachwedd 2019.

Ochr yn ochr â Cymru’r Dyfodol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr asesiad manwl a ddefnyddiwyd i ddynodi’r ardaloedd hyn.  Mae’r crynodeb gweithredol yn esbonio’r fethodoleg asesu. Roedd dau gam i’r broses asesu a gynhaliwyd rhwng mis Awst 2018 a mis Gorffennaf 2019. Yn ystod y cam cyntaf, aeth ymgynghorwyr ati i ddatblygu offeryn rhyngweithiol ar y cyd â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid i ddod o hyd i ardaloedd blaenoriaeth eang cychwynnol i’w mireinio’n ddiweddarach. Yn ystod yr ail gam, cafodd yr ardaloedd hyn eu dadansoddi ymhellach i’w mireinio’n ôl meini prawf manwl.   

Mae manylion yr asesiad i’w gweld yn y dogfennau a ganlyn:

§    Cam 1 : datblygu ardaloedd blaenoriaeth ar gyfer ynni’r haul ac ynni gwynt  

§    Cam 2: mireinio’r ardaloedd blaenoriaeth ar gyfer ynni’r haul ac ynni gwynt

Fel rhan o’r broses, roedd Cymru’r  Dyfodol yn ddarostyngedig i asesiadau o reoliadau cynefinoedd a’r broses o arfarnu cynaliadwyedd integredig (sef asesiad o effeithiau economaidd, amgylchedd, diwylliannol a chymdeithasol unrhyw gynllun). Mae’r asesiadau a’r arfarniadau hyn i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.

1.4.          Beth yw’r broses ar gyfer rhoi caniatâd ar gyfer prosiectau ynni gwynt mawr?

Gweinidogion Cymru sy’n rhoi caniatâd ar gyfer prosiectau ynni gwynt mawr yng Nghymru a hynny drwy’r broses Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol. Penderfynir ynghylch ceisiadau’n unol â pholisïau cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru (sydd wedi’u nodi yn Polisi Cynllunio Cymru a Cymru’r Dyfodol).

1.5.          Sut y gall unigolion a chymunedau ddweud eu dweud am ddatblygiadau arfaethedig?

O dan y broses Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, mae’n ofynnol i ddatblygwyr gynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio. Caiff ceisiadau eu rheoli gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) (Arolygiaeth Cynllunio Cymru gynt) ac mae cyfnod ymgynghori statudol arall wedi i PEDW gael y cais terfynol.

Mae cyfres o ddogfennau canllaw ar Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol ar wefan Llywodraeth Cymru ac mae’r rhain yn cynnwys dogfennau’n ymwneud yn benodol â’r  cam cyn ymgeisio a’r cam ymgynghori diweddarach. Mae  cyflwyniadhefyd sy’n rhoi trosolwg o’r broses a chanllawiau i gymunedau.

1.6.          Pa gymorth sydd ar gael i unigolion a chymunedau?

Elusen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Cymorth Cynllunio Cymru a gall helpu unigolion a chymunedau cymwys ymwneud yn fwy effeithiol â’r system  gynllunio. Mae’r cynnig gwasanaethau cynghori, gan gynnwys llinell gymorth.

2.     Y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Yn ei llythyr atoch, mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd yn anghytuno â honiad canolog y ddeiseb, gan ddweud:

 ... bod pawb a allai gael eu heffeithio yn cael eu hysbysu ar ddechrau'r trafodaethau

cychwynnol, a chânt gyngor cynllunio proffesiynol a chyfreithiol am ddim a'u cefnogi i allu dylanwadu ar benderfyniadau.  

Mae’r Gweinidog yn dadlau:

1.              Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Cymorth Cynllunio Cymru felly mae system ar waith eisoes i roi cyngor diduedd am ddim i’r rhai y mae ei angen arnynt. 

2.            Cynhelir archwiliad cyhoeddus eang a thrylwyr mewn perthynas â cheisiadau a gyflwynir drwy’r broses Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yn yr Ardaloedd wedi’u Rhagasesu a chânt eu hystyried yn ôl y meini prawf ym mholisi 18 Cymru’r Dyfodol. Dywed fod y broses Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yn galluogi Awdurdodau Cynllunio Lleol i gyhoeddi eu barn mewn Adroddiad o Effaith Leol. Mae’n cloi drwy ddweud:

Nid yw'n wir felly y gellir datblygu safleoedd o fewn yr Ardaloedd a Aseswyd ymlaen llaw yn awtomatig ac mae cyfleoedd pellach i bobl gymryd rhan yn y broses o benderfynu a ddylai cynlluniau fynd rhagddynt ahead.

3.            Mae’r Gweinidog yn gwbl fodlon bod Cymru’r Dyfodol wedi’i datblygu drwy ymgysylltu ac ymgynghori’n helaeth (gweler uchod) ac y bu cyfleoedd digonol i bobl gyfrannu.

4.            Mae’r Gweinidog yn tynnu sylw at ‘y cyfnod trafod o 60 diwrnod’ (gweler isod) yn y Senedd sy’n dweud bod pob Aelod o’r Senedd wedi cael gwybod am hynt y ddogfen ac wedi cael cyfle i graffu ar Cymru’r Dyfodol.

5.            Caiff Cymru'r Dyfodol ei baratoi ar raddfa genedlaethol. Mae'n ystyried materion fel ynni o safbwynt cenedlaethol ac yn darparu fframwaith ar gyfer penderfyniadau yn y dyfodol. Nid yw’r Gweinidog yn credu y byddai’n bosibl paratoi cynllun cenedlaethol o’r fath ar sail yr hyn y mae’r ddeiseb yn ei gynnig.   

6.            Dywed y Gweinidog fod y Llywodraeth wedi ymgynghori â’r Awdurdodau Cynllunio Lleol a chawsant gyfle i gyfrannu at bob cam o’r gwaith o baratoi Cymru’r Dyfodol yn ystod y cyfnod o bum mlynedd.

Mae rhagor o fanylion am ymateb y Gweinidog i’w gweld yn ei llythyr atoch.

3.     Y camau a gymerwyd gan Senedd Cymru

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru osod fersiwn ddrafft o Cymru’r Dyfodol gerbron y Senedd am  gyfnod trafod o 60 diwrnod. Rhaid cyflwyno adroddiad gyda’r fersiwn ddrafft yn crynhoi’r materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad a sut mae Llywodraeth Cymru wedi’u hystyried. Cynhaliwyd y cyfnod ymgynghori yn ystod tymor yr hydref 2020.

Nid yw’r Senedd yn ‘cymeradwyo’ Cymru’r Dyfodol. Yn hytrach, rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried unrhyw benderfyniad neu argymhelliad gan y Senedd, neu gan unrhyw un o’i phwyllgorau, wrth benderfynu a yw am ddiwygio’r drafft o  Cymru’r Dyfodol. Rhaid iddi gyhoeddi datganiad ochr yn ochr â’r fersiwn derfynol o  Cymru’r Dyfodol yn amlinellu sut y mae wedi ystyried penderfyniadau neu argymhellion y Senedd.

Yn ystod y cyfnod trafod,  Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Bumed Senedd oedd yn bennaf cyfrifol am graffu ar y fersiwn ddrafft o Gymru’r Dyfodol. Cynhaliwyd dwy ddadl ar y fersiwn derfynol yn y Senedd, a hynny ar 29 Medi a 25 Tachwedd 2020.

Aeth fersiwn ddrafft gynharach (2019) drwy’r broses graffu yn y Senedd hefyd. Clywodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig am bryderon rhanddeiliaid yn y sector ynni adnewyddadwy ynghylch y fethodoleg a ddefnyddiwyd i ddynodi ardaloedd a fyddai’n dod yn Ardaloedd wedi’u Rhag-asesu ar gyfer Ynni Gwynt. Awgrymwyd bod llai na 10% o’r ardal yn addas ar gyfer ynni gwynt ar y tir, a dim ond 5% oedd ar gael mewn gwirionedd. Mae’r pryderon hyn wedi’u crynhoi yn adroddiad y Pwyllgor (tudalen 31) ond ni ddaeth i Pwyllgor i unrhyw gasgliadau yn y cyswllt hwn.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.